Cymorth wrth ddelio gyda galar gyda phlant a phobl ifanc

Isod ceir gwefan sy’n cynnig cefnogaeth i rai sy’n gweithio gyda phlant mewn galar:

http://www.going4growth.com/growth_in_skills_and_knowledge/bereavement_resources

https://www.faithandworship.com/prayers_mourning.htm#gsc.tab=0

Canllaw ar brofedigaeth a cholled i bobl ifanc
Llyfr gwaith i bobl ifanc sy’n dioddef profedigaeth

“Adnodd apelgar, wedi’i ddylunio’n dda a defnyddiol. Rydw i wedi ei ddangos i ddau gydweithiwr ac maent hwy hefyd yn teimlo y bydd yn ddefnyddiol. Beth yw’r ffordd orau i brynu rhagor o gopïau?”
Sacha Richardson – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Thearpiwtig, The Laura Centre, Llundain

Ynglŷn â’r awdur: Ann Atkin (B.Ed., Dip.C.P.C., P.G.Cert.)
Ail-hyfforddodd Ann, a arferai fod yn athrawes ac arweinydd ieuenctid, fel cwnselydd profedigaeth yn dilyn cyfnod o golled bersonol.

Mae ei gwaith dros y degawd diwethaf wedi amrywio o gefnogi teuluoedd drwy salwch difrifol a phrofedigaeth i gyflwyno gweithdai codi ymwybyddiaeth ar effaith galar a cholled ar gyfer y rheini sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae Ann yn chwarae rhan weithredol mewn fforymau profedigaeth yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae ‘Popeth yn Newid’ wedi datblygu o waith uniongyrchol Ann gyda phobl ifanc. Ei dyhead yw helpu pobl ifanc i normaleiddio galar a chyflanwi gwytnwch drwy strategaethau ymdopi effeithiol.

Am y llyfr
Sut ddechreuodd y cyfan
Deilliodd ‘Popeth yn Newid’ allan o ddymuniad ar gyfer llyfr gwaith deniadol ar gyfer pobl ifanc a oedd yn y broses o reoli galar.

Tra’n gweithio gyda phlant ysgol iau, byddaf yn defnyddio’r adnodd Winston’s Wish, ‘Muddle, Puddles and Sunshine’.

Dros y blynyddoedd rydw i wedi defnyddio rhai o’m hymarferion fy hun, a rhai a ddaw o adnoddau eraill, y cyfan wedi’u cadw mewn waled blastig. Mae’r rhain wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn rhoi ffocws ar gyfer cefnogaeth i bobl ifanc mewn profedigaeth, ond nid oeddent yn rhoi’r neges o werth yr oeddwn eisiau ei chyfleu – ac felly penderfynais greu fy adnodd fy hun.

Mae ‘Popeth yn Newid’ yn gweithredu fel catalydd ar gyfer sgyrsiau pwysig gyda phobl ifanc, ac yn gofnod defnyddiol i’r person ifanc gyfeirio’n ôl ato yn y dyfodol.

Dulliau profedig
Mae’r llyfr yn defnyddio adnoddau cefnogi profedigaeth profedig, sydd wedi cael eu hail-weithio er mwyn apelio at bobl ifanc yn y grŵp 13 – 25 oed.

Hyfforddiant
Er y gallai’r darllenwr ifanc weithio drwy’r llyfr ar ei ben ei hun, yn ddelfrydol dylai weithio gydag oedolyn, gan ddefnyddio’r nodiadau canllaw i helpu.

Mae hyfforddiant penodol ar alar ymhlith pobl ifanc a’r ffordd orau i ddefnyddio’r llyfr ar gael i unigolion neu grwpiau. Cysylltwch â mi am ragor o fanylion.

Prynu’r Llyfr